ElizabethHUGHES8 Rhagfyr, 2024
Bu farw Elizabeth (Liz i bawb) yn dawel yn ei chwsg yn 87 oed yng Nghartref Nyrsio Y Bwthyn, Yr Wyddgrug.
Yn wreiddiol o ardal Boduan, bu yn hapus am bron i 50 mlynedd yn Haulfryn, Llanbedr DC. Modryb annwyl a ffrind da i lawer. Cyn-bennaeth cerdd weithgar a dawnus yn Ysgol Dyffryn Conwy ac Ysgol Maes Garmon.
Cafodd ddylanwad ar nifer fawr o ddisgyblion fel arweinydd y gerddorfa, cyfeilyddes y sioeau a chynyrchiadau ysgol, hyfforddwraig eitemau Eisteddfodol, meistres defodau cerddorol, gwasanaethau a chyngherddau. Bu'n athrawes pwnc arloesol gan ddod â chanu cyfrwng Cymraeg i blant ail-iaith ac i dorfeydd o blant na fyddent erioed wedi meistroli'r grefft o siarad Cymraeg heb ei chyfraniad a'i dawn i gynnig y Gymraeg ar gân. Wedi ymddeol bu yn cyfeilio, arwain corau a gwirfoddoli gyda Cyngor ar Bopeth.
Bydd gwasanaeth i gofio am Liz yn Amlosgfa Llanelwy ddydd Mawrth, Ionawr 14 am 11 y bore.
Blodau'r teulu yn unig ond derbynnir rhoddion yn ddiolchgar er cof tuag at Asthma & Lung UK.
* * * * *
HUGHES Elizabeth
8 December 2024
Elizabeth (Liz to many) died peacefully in her sleep at the age of 87 in The Cottage Nursing Home, Mold.
Originally from the Boduan area, she was happy for almost 50 years at Haulfryn, Llanbedr DC. A beloved aunt and good friend to many. A hard-working and talented former head of music at Ysgol Dyffryn Conwy and Ysgol Maes Garmon.
She influenced a large number of pupils as the conductor of the orchestra, the accompanist of the shows and school productions, the rehearsing of Eisteddfod items, the mistress of musical rituals, assemblies and concerts. She was an innovative subject teacher bringing Welsh-medium singing to second-language children and to crowds of children who would never have mastered the art of speaking Welsh without her contribution and talent to offer the Welsh language through music. After retirement she continued as an accompanist, conducted choirs and volunteered with Citizens Advice.
A service will be held at St Asaph Crematorium on Tuesday, January 14 at 11am.
Family flowers only but donations gratefully received if desired towards Asthma & Lung UK.
Arrangements by Dowell Brothers Funeral Directors of Ruthin
Keep me informed of updates
Leave a tribute for Elizabeth